fbpx
TwT Byw (1)

Hyfforddiant Digidol Pryd Bynnag 'Da Chi Ei Eisiau

Hyfforddiant o safon ar sgiliau digidol pob wythnos o'r tymor. Mynediad diderfyn i'ch holl staff. Gwyliwch yn fyw neu ar alw.

Beth yw TwT Byw?

Gwylio Pan yn Gyfleus

- Pob Sesiwn Ar Alw -

Mae ein gweminarau ar gael i'w ail-wylio pryd bynnag sy'n gyfleus i chi.

 

Gan Athrawon, Ar Gyfer Athrawon

- Hyfforddwyr Gyda Gwir Brofiad -

Mae ein hyfforddwyr yn arbeingwyr yn y platfform a'r sgiliau maent yn eu cyflwyno, Rydym wrth ein boddau yn rhannu profiad ac arbenigedd athrawon ac arweinwyr sydd yn parhau i ddatblygu eu sgiliau yn eu hysgolion.

online video (1)

Hyfforddiant Ble Bynnag, a Phryd Bynnag, Sydd Orau i Chi

Mae technoleg yn esblygu'n gyson, felly mae'n hanfodol bod gan athrawon fynediad at hyfforddiant perthnasol ac ymarferol pryd bynnag a lle bynnag y mae ei angen arnynt. Mae TwT Byw yn cyflwyno hyfforddiant ar sgiliau digidol gan helpu'ch staff i ddefnyddio technoleg yn effeithiol ac i arwain eu disgyblion yn eu sgiliau digidol.

 

Sesiynau byr, cyson a diddorol. Dyma ddysgu proffesiynol rhagorol sy'n ymestyn staff ac yn creu awch am ddysgu pellach.

Prifathro Uwchradd, Dinbych
I feel much more confident with some of the different features we can use now. Thank you for your tips and new ideas! I'm excited to apply them with the children I teach.
Arweinydd Technoleg ar Gyfer Dysgu, Llundain

Excellent demonstrations and brilliant progression steps demonstrated.

Arweinydd Cyfnod Allweddol, Y Fflint

Hyfforddwyr Sy'n Deall y Dosbarth

Rydym yn credu ei bod hi'n bwysig fod hyfforddiant mor berthnasol ac ymarferol a phosib i chi fel ysgolion, felly mae ein hyfforddwyr yn athrawon gyda phrofiad eang o ddefnyddio ac addysgu sgiliau technoleg yn effeithiol. Mae ein hystod o hyfforddwyr yn cyflwyno ar yr offer maen nhw eu hunain yn eu defnyddio'n rheolaidd, gan sicrhau eu bod nhw'n cyflwyno gydag arbenigedd ac angerdd!

Mae ein prif hyfforddwr yn athro gyda blynyddoedd o brofiad o gynnal hyfforddiant digidol i ysgolion ledled y Byd, ac o gyflwyno ar ran rhai o'r platfformau digidol mwyaf adnabyddus o fewn y byd addysg megis Google for Education a Purple Mash.

virtual_meet (1)

Rhai o'r Sesiynau 'Ar Alw' Sydd ar Gael y Mis Hwn

virtual_class (2)

Ystod Eang o Weminarau

Mae TwT Byw yn hyfforddi ar ystod eang o bynciau, gyda sesiynau ar blatfformau penodol, ar sgiliau penodol ac yn canolbwyntio ar bedagogeg.

Mae ein sesiynau yn amrywio o rai cyflym, 25 munud, i rai manwl hyd at 90 munud o hyd. Mae'r rhan fwyaf o'n gweminarau yn Saesneg, ond mae gweminarau Cymraeg yn rhedeg yn aml. Mae rhai sesiynau wedi'u hanelu at athrawon Cyfnodau Allweddol penodol, tra bod y mwyafrif yn berthnasol i athrawon o bob cyfnod allweddol a phwnc.

Clear, simple ideas but with clear focus through the training
Athro Maths, Uwchradd
Highly recommend this training to anyone who works in education, from those who are at the beginning of their tech journey to those who are more experienced, I think there’s something for everyone.
Dirprwy Bennaeth, Manceinion
'Refresher' gwych cyn dechrau'r tymor newydd & nifer o tips defnyddiol. Cyflwyniad eglur a chyflymder da.
Athrawes CA2, Caerdydd
X
X