Preifatrwydd
Telerau Clir
Casglu Data
Data Gennych Chi
Pan ych chi yn cofrestru, rydym yn cadw data megis eich enw, ebost, swydd ac ysgol. Rydym hefyd yn cadw cofnod o ddata yr ydych yn ei gynnwys wrth ein ebostio, galw neu siarad gyda ni dros 'chat'.
Data o Ddefnydd y Wefan
Rydym yn defnyddio Google Analytics i gasglu data am ddefnydd y wefan (e.e. pa ran o'r wefan sydd fwyaf poblogaidd).
Defnydd o'r Data
Rydym yn defnyddio'r data yma i gysylltu â chi, i'ch galluogi chi i fewngofnodi, i wella'r wefan ac ar gyfer ein cofnodion mewnol. Ar gyfer storio ein cofnodion mewnol rydym yn gallu cadw eich data ar feddalwedd 3ydd parti.
Briwsion (Cookies)
Beth ydy nhw?
Ffeiliau pitw yw Briwsion, sydd yn cael eu harbed ar eich cyfrifiadur ac sy'n gadael i wefannau wybod pam fod yr un person yn dod 'nôl i'r safle.
Defnydd o Friwsion
Rydym yn defnyddio Briwsion i'ch galluogi chi i fewngofnodi ac i wella ein data o ddefnydd y wefan.
Rheoli Briwsion
Mae yn bosib i chi, drwy osodion eich porwr, wrthod Briwsion gan wefannau, ond, os ydych yn gwneud hyn, fe fydd hi'n amhosib mewngofnodi i'r wefan.
Arall
Rheoli eich Data
Gallwch gysylltu â ni unrhywbryd a gofyn i weld neu ddileu'r data rydym yn ei gadw arnoch. I wneud hyn, cysylltwch â [email protected]
Diogelu Data
Rydym yn defnyddio systemau diogelwch electronig a corfforol i ddiogelu eich data. (e.e. nid oes gan staff TwT 360 y gallu i weld eich cyfrinair.)
Dolenni Allanol
Mae rhai dolenni ar ein gwefan yn eich arwain i wefannau allanol, sydd ddim o dan ein rheolaeth. Cofiwch ddarllen eu polisi preifatrwydd nhw cyn rhannu data a'u gwefannau.